TalkingZone

Gwybodaeth

   Parth Siarad

Gwasanaeth cwnsela preifat ar-lein yw'r PARTH SIARAD. Mae am ddim i bobl ifanc rhwng 11-17.

Mae'r gwasanaeth ar-lein yn lle diogel a phreifat i siarad gyda chwnselydd neu i ddarganfod cymorth am bethau rydych yn poeni am.

   Sut allwn ni helpu?

Ar y wefan yma rydych yn medru cael mynediad yn rhad ac am ddim i wasanaeth cwnsela lle mae cwnselydd ar gael trwy dectsio neu fideo. Mae hyn ar gael ar ddyd mercher ac ddydd Iau rhwng 5yp-8yp.

Os nad yw'r cwnselydd ar gael neu yn barod mewn sesiwn, rydych yn medru bwcio sesiwn trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio yma. Bydd y cwnselydd wedyn yn cysylltu gyda chio fewn 3 diwrnod gwaith i drefnu apwyntiad gyda chi neu i adael chi wybod pa mor hir bydd rhaid aros am benodiad.

Rydych hefyd yn medru darganfod cysylltiadau i daflenni hunan-gymorth, fideos a chysylltiadau i wefanau defnyddiol arall.

   Beth yw cwnsela?

Mae pob un ohonym yn mynd trwy adegau yn ein bywyd lle mae siarad gyda'r person agosaf atom ni am bethau sy'n ein poeni ni yn anodd. Yn aml mae hyn oherwydd nad ydym eisiau iddyn nhw boeni amdanon ni neu rydym yn ofn beth allen nhw ddweud. Mae cwnselydd yna i wrando'n astud arnoch chi, heb feirniadu, ond i geisio gwneud i chi ddeall beth all fod yn eich poeni chi ac i'ch helpu chi darganfod ffordd i ddelio ar broblemau sydd genych.

   Beth all cwnsela cynnig?

  • Lle i siarad neu i feddwl am bryderon neu anawsterau;
  • Helpu chi edrych ar sut rydych eisiau i bethau newid, trwy siarad a defnyddio amryw o weithgareddau;
  • Edrych ar eich cryfderau a darganfod cryfderau newydd i helpu I ddelio gyda'r problemau mewn ffordd bositif;
  • Canllawiad I roi cymorth ichi ddarganfod yr help cywir i ddelio gyda'r problemau nad yw'r cwnselydd yn medru eich helpu chi gyda;
  • Mae cwnselydd yn cymryd amser hir i hyfforddi am y swydd ac felly dylent eich trin mewn ffordd ofalus, cynnes ac geisio bod mor dealldwrus a defnyddiol a phosib;
  • Mae cwnselydd yn cael ei wirio gan y DBS i sicrhau ei fod yn ddiogel i weithio gyda phobl ifanc.

   Pa fath o broblemau alla'i siarad amdano mewn cwnsela?

Mae nifer o broblemau gallwch siarad amdano mewn cwnsela. Mae'r rhestr isod yn cynnws ychydig o enghreifftiau o'r fath o bethau rydych yn medru siarad am, ond mae nifer o bethau arall:

  • Problemau teuluol
  • Perthnasoedd gyda ffrindiau
  • Colli rhywun pwysig yn eich bywyd - profedigaeth
  • Bwlio
  • Diffyg hyder
  • Dicter
  • Materion ymddygiad
  • Hunan-niweidio ffisegol
  • Poeni lot fawr o'r amser
  • Hwyliau isel (teimlo'n isel yn aml)

   Pa mor breifat a chyfrinachol yw cwnsela?

Mae popeth rydych yn dweud yn breifat rhwng chi a'ch cwnselydd heblaw os oes pryder o risg difrifol i chi neu eraill.

Beth yw risg difrifol o niwed?

  • Os yw unrhyw un â'r bwriad o'ch brifio chi, yn emosiynol, ffisegol neu yn rhywiol.
  • Hefyd pan nad ydych yn cael eich edrych ar ol yn iawn (e.e. cael eich bwydo digon neu yn gweld doctor pam rydych yn sal iawn).
  • Os rydych wir yn meddwl neu â'r bwriad o frifo'ch hun (hunan-niweidio).
  • Os rydych wir yn meddwl neu â'r bwriad o frifo eraill.
  • Os rydych yn dweud bod rhywun arall yn cael ei niweidio neu mewn peryg difrifol o niwed.

Beth sy'n digwydd os oes rhaid rhannu'r wybodaeth?

  • Pan yn bosib, byddwn yn siarad gyda chi cyn i'r wybodaeth gael ei rannu.
  • Weithiau bydd y cwnselydd yn rhannu gwybodaeth amdano chi a'ch cyfeiriad IP gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu neu gwasanaeth yr ambiwlans am eu bod nhw'n medru helpu chi.
  • Weithiau hefyd bydd y cwnselydd ddim ond yn trafod gyda'i goruchwyliwr neu rheolwr nhw cyn gwneud dim byd arall.

   Pwy sydd medru defnyddio'n gwasanaeth yma?

Mae'r Sgwrsio Byw neu Sgwrsio Fideo Byw yn gallu cael ei ddefnyddio gan pobl ifanc sydd:

  • Rhwng 11 - 17 yn unig.
  • Yn byw yn ardal Casnewydd (De Cymru).
  • Nodi fel yr un person pob tro maent yn defnyddio'r gwasanaeth.

Parth Siarad

Prifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig.

Rhif yr elusen 1140312